Fel cwmni theatr i bobl ifanc un o'n blaenoriaethau yw datblygu talent newydd yn y diwydiant yng Nghymru. Dyma pam sefydlon ni'r Cymdeithion Ifanc. Mae'n brosiect cymharol newydd a ddechreuodd ym mis Ionawr 2021 ac mae llawer o'r bobl ifanc sy’n rhan o’r grŵp wedi cwrdd â ni trwy glyweliadau agored neu roedden nhw wedi cysylltu â diddordeb mewn profiad gwaith / cysgodi. Mae diddordebau'r Cymdeithion Ifanc yn cynnwys actio, ysgrifennu, cyfarwyddo a dylunio. Grŵp anffurfiol ydyw ar gyfer bobl ifanc i rhwydweithio, i gydweithio, rannu syniadau, clywed am gyfleoedd a derbyn cyngor yn ogystal a lle creadigol i drefnu gweithdai, darlleniadau, prosiectau Ymchwil a Datblygu a.y.y.b.
Hyd yn hyn rydyn ni wedi trefnu gweithdai ysgrifennu, gweithdai llais, darlleniadau o sgriptiau newydd a dathliad o waith Shakespeare. Rydyn ni hefyd wedi bod yn gweithio gyda’n Hartistiaid Cysylltiol i hwyluso’r gweithdai ac i gynnig unrhyw gyngor sydd ganddyn nhw am y diwydiant.
""Yn ystod y pandemig Covid-19, rwyf wedi trysori’r cyfleoedd mae Theatr na nÓg wedi rhoi i mi fel un o Gymdeithion Ifanc y cwmni. Dwi wedi cael y siawns i ymuno â gweithdai amrywiol, a derbyn cymorth gan Theatr na nÓg trwy’r pandemig - mae o wedi bod yn hyfryd i gyfarfod pobl mor wych â’r rhai sy’n ymwneud gyda Theatr na nÓg, ac i fod yn rhan o gwmni ardderchog."
Siôn Rhys
"Yr wyf yn hynod ddiolchgar i Theatr na nÓg. Ym mis Ionawr, des i'n Gydymaith Ifanc ac ers hynny rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i fynychu sesiynau ar-lein gyda na nÓg, i ddatblygu fy sgiliau actio ac ysgrifennu. Yr wyf wrth fy modd ein bod ni, fel dramodwyr, yn gallu cynnig syniad a bod cwmni'n gweithio'n ddyfal i wireddu hyn. Ar ôl ysgrifennu drama, awgrymwyd yn eiddgar fy mod yn ei darllen mewn sesiwn ymchwil a datblygu, gyda'r holl gymdeithion. Roedd hyn yn ddefnyddiol iawn gan fy mod yn gallu gweld yr hyn yr oedd angen i mi ei ddatblygu a beth oedd yn gweithio o fewn y ddrama ac ati.
Cynhaliwyd sesiwn adborth hefyd, gan ganolbwyntio ar fy nrama, a oedd yn wych, wrth i mi dderbyn adborth gan actorion a dramodwyr. Rwy'n parhau i ddatblygu o ganlyniad i sesiynau Theatr na nÓg a’u meithrin hwythau – maent wir wedi rhoi'r hwb a chic i mi ddatblygu ymhellach ac ysgrifennu mwy.
Yn wir, mae ysgrifennu a bod yn rhan o theatr mor bwysig, yn enwedig yn ystod cyfnod mor ansicr i bobl greadigol. Mae gen i gymaint o syniadau ar gyfer cynyrchiadau Cymraeg a Saesneg, ac mae gweld cymaint o gefnogaeth a brwdfrydedd gan gwmni actio mor braf i weld.
Rwy'n parhau i fwydo o'u positifrwydd ac ni allaf aros i ddechrau datblygu gwaith, mewn person, mewn stiwdio ymarfer yn y dyfodol agos."
Kristia Nadine